#

Y Pwyllgor Deisebau | 11 Rhagfyr 2018
 Petitions Committee | 11 December 2018
 
 
 ,P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus. 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-852

Teitl y ddeiseb: Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus.

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer saethu adar hela er mwyn atal erlid adar ysglyfaethus a gysylltir yn aml â'r gweithgaredd hwn.

Mae adroddiadau trosedd adar yr RSPB yn dangos mai ciperiaid sy'n gyfrifol am nifer eithriadol o uchel o ddigwyddiadau erlid adar ysglyfaethus. Fodd bynnag, er gwaethaf y wybodaeth hon, anaml iawn y caiff trefnwr digwyddiadau erlid ei erlyn yn llwyddiannus oherwydd anawsterau wrth gael digon o dystiolaeth i gyhuddo unigolyn penodol. Hyd yn oed yn yr Alban, lle mae atebolrwydd dirprwyol, prin yw'r erlyniadau.
Oherwydd hyn, credwn mai'r cam gweithredu mwyaf priodol yw cyflwyno cynllun trwyddedu. Dylai'r drwydded hon fod yn drwydded i weithredu digwyddiad saethu adar hela.

Dylai'r drwydded wneud y canlynol o leiaf:

1.          Bod yn berthnasol i ardal ddaearyddol a ddiffinnir yn y cais am drwydded.

2.          Bod yn ofynnol er mwyn i ystâd gynnal unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â saethu adar hela, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig o reidrwydd i'r canlynol:

a.    Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â magu adar hela.

b.   Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rheolaeth gyfreithiol o ysglyfaethwyr (rhaid i ystadau gael trwydded weithredu cyn y cânt wneud cais am drwyddedau cyffredinol neu benodol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau rheoli plâu).

c.    Caniatáu i aelodau'r digwyddiad saethu gymryd rhan wrth saethu adar hela y tu allan i'r cyfnod gwaharddedig.

d.   Caniatáu i drefnwr y digwyddiad saethu werthu diwrnodau saethu i'r cyhoedd.

Os cynhelir digwyddiad erlid ar dir ystâd neu'n agos ato, bydd modd i'r awdurdod priodol atal gallu'r ystâd i gynnal yr holl weithgareddau neu unrhyw un ohonynt a restrir o dan bwynt 2 am gyfnod.

Dylai digwyddiadau erlid difrifol neu fynych arwain at ddiddymu trwydded weithredu'r ystâd.

Y cefndir

Yn y DU, mae adar ysglyfaethus yn rhywogaethau gwarchodedig ac felly mae unrhyw droseddau a gyflawnir yn erbyn y rhywogaethau hyn yn dod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Mae erledigaeth adar ysglyfaethus yn cynnwys gwenwyno, saethu, trapio, dinistrio cynefinoedd a dinistrio/aflonyddu nythod.

Achosion o erlid adar ysglyfaethus

Mae'r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt (WIIS) yn ymchwilio ac yn darparu gwasanaethau dadansoddi ar gyfer bywyd gwyllt, anifeiliaid anwes a gwenyn mêl lle'r ​​amheuir eu bod wedi cael eu gwenwyno gan blaladdwyr. Yng Nghymru, Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg y cynllun. Mewn gohebiaeth i’r Pwyllgor (23 Tachwedd 2018), dywedodd Llywodraeth Cymru:

Mae ffigurau WIIS o'r bum mlynedd flaenorol yn dangos bod 2 achos y flwyddyn ar gyfartaledd wedi'u cadarnhau o gamddefnyddio plaladdwyr yn fwriadol gan arwain at adar hela yn marw

Fodd bynnag, mae canlyniadau diweddaraf WIIS yn dangos 15 o achosion o erlid adar ysglyfaethus yn 2018 hyd yn hyn.

Mae'r adroddiad blynyddol troseddau adar gan RSPB ar gyfer 2017, yn dangos bod tri achos wedi'u cadarnhau o erlid adar ysglyfaethus yng Nghymru:

Among the victims in Wales was a peregrine falcon, red kite and buzzard. The peregrine falcon suffered poisoning via pigeon bait, whilst the buzzard and red kite were shot.

Caiff achosion eu cadarnhau lle mae amgylchiadau'n dangos bod gweithred anghyfreithlon wedi digwydd. Mae'r digwyddiadau hyn fel arfer yn cael eu profi gan dystiolaeth fel dadansoddiad post-mortem neu ddadansoddiad o wenwyn, neu dystiolaeth ddibynadwy gan lygad dyst. Roedd y tri achos a gadarnhawyd o blith 15 o achosion yng Nghymru a adroddwyd i'r RSPB yn 2017.

Yn ei gohebiaeth i'r Pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn gweithio'n agos gyda phedwar awdurdod Heddlu Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff gorfodaeth eraill drwy Grŵp Bywyd Gwyllt a Throseddau Gwledig Cymru:

Mae'r Grŵp yn nodi blaenoriaethau rhanbarthol o ran troseddau yn erbyn bywyd gwyllt yn ogystal â sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli ar lefel Grwpiau Cyflawni Blaenoriaethau y DU, gan gynnwys Grŵp Cyflawni'r Flaenoriaeth i Atal yr Erlid ar Adar Ysglyfaethus.

Camau Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd, at y Pwyllgor ar 23 Tachwedd, yn nodi ei hymateb i'r ddeiseb. Mae'n nodi yr ariannodd Llywodraeth Cymru adolygiad ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt yng Nghymru yn 2017, a gynhaliwyd gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bywyd Gwyllt. Nid yw'r adroddiad ar gael i'r cyhoedd adeg ysgrifennu hyn, ond mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod hyn:

yn cynnwys 21 o argymhellion sy'n cael eu hystyried gan Grŵp Troseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig Cymru ar hyn o bryd.

[…]

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at lwyddiant rhoi swyddogion yr heddlu ar secondiad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â sefydlu timau penodol ar gyfer troseddau gwledig o fewn heddluoedd Cymru

Mae llythyr Hannah Blythyn at y Pwyllgor yn nodi'r canlynol:

Byddaf yn parhau i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu hymrwymiad i gydweithio gyda Heddluoedd Cymru i annog pobl i gydymffurfio gyda, a gorfodi deddfwriaeth bywyd gwyllt ac amgylcheddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys parhau i ariannu swyddogion yr heddlu ar secondiad sy'n hanfodol er mwyn cyflawni'r gwaith hwn.

Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud bod y model 'tîm troseddau gwledig' wedi cael ei ymestyn i gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed Powys, a bod Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent hefyd yn ystyried sefydlu timau tebyg.  

Mae'n gorffen drwy ddweud bod yr adolygiad wedi nodi arfer gorau ac wedi edrych ar fylchau mewn gwybodaeth a phroblemau wrth ddwyn erlyniadau yn eu blaen. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cynnwys trwyddedu:

Ni chafodd trwyddedu saethu adar hela / ceidwaid adar hela ei nodi fel problem ac felly ni chafod ei restru yn yr argymhellion. Wrth gynnal ymchwiliadau gyda'r heddlu, nid yw fy swyddogion wedi gorfod wynebu unrhyw broblemau o ran adnabod perchnogion tir lleol a'r rhai hynny sydd â buddiannau mewn adar hela, ac felly nid ydynt yn gweld bod unrhyw fantais i gyflwyno trefn drwyddedu a fyddai'n cymryd amser ychwanegol ac yn gostus i'w rhoi ar waith, heb unrhyw fantais amlwg o gymharu â'r drefn bresennol o ddelio gydag achosion erlid adar ysglyfaethus.

Camau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad wrthi'n ystyried deiseb P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru. Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r gorau i brydlesu tir cyhoeddus ar gyfer gweithrediadau saethu masnachol, gan nodi bod y gweithrediadau hyn:

yn effeithio’n negyddol ar gadwraeth, bioamrywiaeth a lles anifeiliaid. Hefyd, mae gweithgareddau saethu yn llygru tir gyda phelenni plwm gwenwynig sy’n gyfrifol am wenwyno a lladd llawer o anifeiliaid.

Trafodwyd y ddeiseb am y tro cyntaf ar 5 Mehefin 2018, ac mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru a Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig, am ragor o wybodaeth.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.